Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 3 Chwefror 2022
Amser:
09.30 -
13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12603
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
David Black, Ofwat James Jesic, Hafren Dyfrdwy Eleri Rees, Dŵr Cymru Gwenllian Roberts, Ofwat Mark Squire, Cyfoeth Naturiol Cymru Sian Williams, Cyfoeth Naturiol Cymru Steve Wilson, Dŵr Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai e'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Delyth Jewell AS yn Gadeirydd Dros Dro.
1.3 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Huw Irranca-Davies AS ddatgan o fuddiant perthnasol.
2 Ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion – sesiwn dystiolaeth 1
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ofwat a Chyfoeth Naturiol Cymru.
3 Ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion – sesiwn dystiolaeth 2
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Hafren Dyfrdwy a Dŵr Cymru.
4 Papurau i'w nodi
4.1Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
4.2 Rheoliadau Plaladdwyr (Dirymu) (Ymadael â’r UE) 2022
4.3 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23
4.4 Rheoli’r amgylchedd morol
4.5 Argyfyngau natur a hinsawdd
4.6 Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru
4.7 Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) ac (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion – ystyried y dystiolaeth a glywyd o dan eitemau 2 a 3
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod sesiynau 2 a 3.
7 Ystyried adroddiad drafft y Pwyllgor ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiad, cytunodd arno.
8 Ystyried adroddiad drafft y Pwyllgor ar reoli’r amgylchedd morol
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiad, cytunodd arno.
9 Ystyried llythyr gan y Llywydd mewn perthynas â’r adolygiad o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru ac Ofcom.
9.1 Ystyriodd yr Aelodau'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft ac ni chododd unrhyw bryderon ynghylch ei gynnwys.